Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 17 Mehefin 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.02 - 10.00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
||||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2 Deisebau newydd
2.1 P-04-558 GWAHARDD E-SIGARÉTS I BOBL IFANC O DAN 18 OED
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn ei farn am y ddeiseb; a'r
· deisebydd, gan dynnu sylw at ddatganiad diweddar y Gweinidog ar y mater.
2.2 P-04-559 Ymwybyddiaeth mewn Ysgolion Uwchradd o Hunan-niweidio
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog Addysg a Sgiliau a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;
· pob Bwrdd Iechyd Lleol; a
· Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
i ofyn eu barn am y ddeiseb.
2.3 P-04-560 Gwasanaethau Clefyd Llid y Coluddyn yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; a
· phob Bwrdd Iechyd Lleol
i ofyn eu barn am y ddeiseb.
2.4 P-04-561 Hyrwyddo rygbi ar lawr gwlad yng Nghymru i annog pobl i gymryd rhan
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon; ac
· Undeb Rygbi Cymru
i ofyn eu barn am y ddeiseb.
2.5 P-04-562 Canolfan Etifeddiaeth Caernarfon
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon; ac
· Chyngor Gwynedd
i ofyn eu barn am y ddeiseb.
2.6 P-04-563 Y ddarpariaeth o wasanaethau yng ngorsaf dân Pontypridd
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth; a
· Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
i ofyn eu barn am y ddeiseb. Roedd y Pwyllgor yn arbennig o awyddus i glywed barn y Gweinidog ar sut y byddai argymhellion adolygiad Williams o lywodraeth leol yn effeithio ar Awdurdodau Tân.
2.7 P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn ei farn am y ddeiseb; a
· Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
i ofyn eu barn am y ddeiseb.
2.8 P-04-565 Adfywio hen reilffyrdd segur at ddibenion hamdden.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon i ofyn am eu barn am y ddeiseb.
2.9 P-04-566 Adolygu'r Cod Derbyn i Ysgolion
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog Addysg a Sgiliau; a
· Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
i ofyn eu barn am y ddeiseb.
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1 P-04-536 Rhoi’r Gorau i Ffatrïoedd Ffermio Gwartheg Godro yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y nodyn briffio cyfreithiol ynghylch y ddeiseb a chytunodd i drafod y ddeiseb ymhellach yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.
3.2 P-04-530 Labelu Dwyieithog
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· i gau'r ddeiseb am ei bod yn glir na all y Gweinidog gydymffurfio â'r hyn y mae'r deisebydd yn gofyn amdano; ac
· wrth wneud hynny, i dynnu sylw Aelodau Senedd Ewrop o Gymru at y ddeiseb.
3.3 P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog, yn unol â chais y deisebydd, i ofyn a ellir:
· gwahodd Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru i drefnu bod un o'i chynrychiolwyr yn rhan o'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen y mae'r Dirprwy Weinidog wrthi'n ei ffurfio; a
· sicrhau bod adroddiad ac argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cael eu cyhoeddi maes o law.
3.4 P-04-397 Cyflog Byw
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
ysgrifennu at y Gweinidog gan ofyn am sicrwydd y caiff y mater ei drafod yng nghyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a drefnwyd ar gyfer mis Medi; ac
aros am ganlyniad y cyfarfod hwn.
3.5 P-04-373 Parthau Gwaharddedig o Amgylch Ysgolion ar gyfer Faniau Symudol sy'n Gwerthu Bwyd Poeth
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn am ymateb gan y deisebydd i lythyr y Gweinidog; ac
· aros am y wybodaeth bellach a addawyd gan y Gweinidog.
3.6 P-04-496 Ysgolion pob oed
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan na fu'r deisebydd mewn cysylltiad ers cryn amser.
3.7 P-04-511 Cefnogi'r safonau cyfranogaeth plant a phobl ifanc
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn i'r Gweinidog am ei ymateb i'r ddau argymhelliad a wnaed gan y deisebwyr ynghylch cefnogi'r 'nod barcud'; a
· gofyn i Achub y Plant ymateb i lythyr gwreiddiol y Pwyllgor.
3.8 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog, gan anfon copi o ohebiaeth ddiweddar y deisebydd;
· Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan dynnu sylw at y ddeiseb; a'r
· rhanddeiliaid canlynol i ofyn eu barn am y ddeiseb:
o Cyngres Undebau Llafur Cymru;
o Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; a
o Llywodraethwyr Cymru.
3.9 P-04-538 Cynnwys darlithwyr i sicrhau Fframwaith Arolygu Addysg Bellach sy'n addas at y diben
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Arolygydd Ysgolion, yn gofyn ei barn am ohebiaeth y deisebydd.